1 Corinthiaid 12:16-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o'r corff; ai am hynny nid yw hi o'r corff?

17. Pe yr holl gorff fyddai lygad, pa le y byddai'r clywed? pe'r cwbl fyddai glywed, pa le y byddai'r arogliad?

18. Eithr yr awr hon Duw a osododd yr aelodau, bob un ohonynt yn y corff, fel yr ewyllysiodd efe.

19. Canys pe baent oll un aelod, pa le y byddai'r corff?

20. Ond yr awron llawer yw'r aelodau, eithr un corff.

1 Corinthiaid 12