1 Corinthiaid 12:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Eithr am ysbrydol ddoniau, frodyr, ni fynnwn i chwi fod heb wybod.

2. Chwi a wyddoch mai Cenhedloedd oeddech, yn eich arwain ymaith at yr eilunod mudion, fel y'ch tywysid.

3. Am hynny yr wyf yn hysbysu i chwi, nad oes neb yn llefaru trwy Ysbryd Duw, yn galw yr Iesu yn ysgymunbeth: ac ni all neb ddywedyd yr Arglwydd Iesu, eithr trwy'r Ysbryd Glân.

4. Ac y mae amryw ddoniau, eithr yr un Ysbryd.

5. Ac y mae amryw weinidogaethau, eithr yr un Arglwydd.

1 Corinthiaid 12