1 Corinthiaid 10:30-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. Ac os wyf fi trwy ras yn cymryd cyfran, paham y'm ceblir am y peth yr wyf yn rhoddi diolch amdano?

31. Pa un bynnag gan hynny ai bwyta ai yfed, ai beth bynnag a wneloch, gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw.

32. Byddwch ddiachos tramgwydd i'r Iddewon ac i'r Cenhedloedd hefyd, ac i eglwys Dduw:

33. Megis yr ydwyf finnau yn rhyngu bodd i bawb ym mhob peth: heb geisio fy llesâd fy hun, ond llesâd llaweroedd, fel y byddont hwy gadwedig.

1 Corinthiaid 10