1 Corinthiaid 1:19-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Canys ysgrifenedig yw, Mi a ddifethaf ddoethineb y doethion, a deall y rhai deallus a ddileaf.

20. Pa le y mae'r doeth? pa le mae'r ysgrifennydd? pa le y mae ymholydd y byd hwn? oni wnaeth Duw ddoethineb y byd hwn yn ynfydrwydd?

21. Canys oherwydd yn noethineb Duw, nad adnabu'r byd trwy ddoethineb mo Dduw, fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu.

1 Corinthiaid 1