59. A bydded fy ngeiriau hyn, y rhai a ddeisyfais gerbron yr Arglwydd, yn agos at yr Arglwydd ein Duw ddydd a nos, i wneuthur barn â'i was, a barn â'i bobl Israel beunydd, fel y byddo'r achos:
60. Fel y gwypo holl bobl y ddaear mai yr Arglwydd sydd Dduw, ac nad oes arall.
61. Bydded gan hynny eich calon yn berffaith gyda'r Arglwydd ein Duw ni, i rodio yn ei ddeddfau ef, ac i gadw ei orchmynion ef, fel heddiw.
62. A'r brenin a holl Israel gydag ef a aberthasant aberth gerbron yr Arglwydd.
63. A Solomon a aberthodd aberth hedd, yr hwn a offrymodd efe i'r Arglwydd, sef dwy fil ar hugain o wartheg, a chwech ugain mil o ddefaid. Felly y brenin a holl feibion Israel a gysegrasant dŷ yr Arglwydd.
64. Y dwthwn hwnnw y sancteiddiodd y brenin ganol y cyntedd oedd o flaen tŷ yr Arglwydd: canys yno yr offrymodd efe y poethoffrymau, a'r bwyd‐offrymau, a braster yr offrymau hedd: oherwydd yr allor bres, yr hon oedd gerbron yr Arglwydd, oedd ry fechan i dderbyn y poethoffrymau, a'r bwyd‐offrymau, a braster yr offrymau hedd.