1 Brenhinoedd 8:37-49 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

37. Os bydd newyn yn y tir, os bydd haint, llosgfa, malltod, locustiaid, os bydd y lindys; pan warchaeo ei elyn arno ef yng ngwlad ei ddinasoedd; pa bla bynnag, pa glefyd bynnag, a fyddo;

38. Pob gweddi, pob deisyfiad, a fyddo gan un dyn, neu gan dy holl bobl Israel, y rhai a wyddant bawb bla ei galon ei hun, ac a estynnant eu dwylo tua'r tŷ hwn:

39. Yna gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, a maddau; gwna hefyd, a dyro i bob un yn ôl ei holl ffyrdd, yr hwn yr adwaenost ei galon; (canys ti yn unig a adwaenost galonnau holl feibion dynion;)

40. Fel y'th ofnont di yr holl ddyddiau y byddont byw ar wyneb y tir a roddaist i'n tadau ni.

41. Ac am y dieithrddyn hefyd ni byddo o'th bobl Israel, ond dyfod o wlad bell er mwyn dy enw;

42. (Canys clywant am dy enw mawr di, a'th law gref, a'th fraich estynedig;) pan ddêl a gweddïo tua'r tŷ hwn:

43. Gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, a gwna yn ôl yr hyn oll a'r a lefo'r dieithrddyn arnat amdano: fel yr adwaeno holl bobl y ddaear dy enw di, i'th ofni di, fel y mae dy bobl Israel, ac y gwypont mai ar dy enw di y gelwir y tŷ hwn a adeiledais i.

44. Os â dy bobl di allan i ryfel yn erbyn eu gelyn, ar hyd y ffordd yr anfonych hwynt, os gweddïant ar yr Arglwydd tua ffordd y ddinas a ddewisaist ti, a'r tŷ yr hwn a adeiledais i'th enw di:

45. Yna gwrando yn y nefoedd ar eu gweddi hwynt, ac ar eu deisyfiad, a gwna farn iddynt.

46. Os pechant i'th erbyn, (canys nid oes dyn ni phecha,) a digio ohonot wrthynt, a'u rhoddi hwynt o flaen eu gelynion, fel y caethgludont hwynt yn gaethion i wlad y gelyn, ymhell neu yn agos;

47. Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi, a dychwelyd, ac erfyn arnat yng ngwlad y rhai a'u caethgludasant, gan ddywedyd, Pechasom, troseddasom hefyd, a gwnaethom yn annuwiol;

48. A dychwelyd atat ti â'u holl galon, ac â'u holl enaid, yng ngwlad eu gelynion a'u caethgludasant hwynt, a gweddïo arnat ti tua'u gwlad a roddaist i'w tadau, a'r ddinas a ddewisaist, a'r tŷ a adeiledais i'th enw di:

49. Yna gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, eu gweddi hwynt, a'u deisyfiad, a gwna farn iddynt,

1 Brenhinoedd 8