16. Ac efe a wnaeth ddau gnap o bres tawdd, i'w rhoddi ar bennau y colofnau; pum cufydd oedd uchder y naill gnap, a phum cufydd uchder y cnap arall.
17. Efe a wnaeth rwydwaith, a phlethiadau o gadwynwaith, i'r cnapiau oedd ar ben y colofnau; saith i'r naill gnap, a saith i'r cnap arall.
18. Ac efe a wnaeth y colofnau, a dwy res o bomgranadau o amgylch ar y naill rwydwaith, i guddio'r cnapiau oedd uwchben; ac felly y gwnaeth efe i'r cnap arall.
19. A'r cnapiau y rhai oedd ar y colofnau oedd o waith lili, yn y porth, yn bedwar cufydd.
20. Ac i'r cnapiau ar y ddwy golofn oddi arnodd, ar gyfer y canol, yr oedd pomgranadau, y rhai oedd wrth y rhwydwaith; a'r pomgranadau oedd ddau cant, yn rhesau o amgylch, ar y cnap arall.
21. Ac efe a gyfododd y colofnau ym mhorth y deml: ac a gyfododd y golofn ddeau, ac a alwodd ei henw hi Jachin; ac efe a gyfododd y golofn aswy, ac a alwodd ei henw hi Boas.
22. Ac ar ben y colofnau yr oedd gwaith lili. Felly y gorffennwyd gwaith y colofnau.
23. Ac efe a wnaeth fôr tawdd yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl: yn grwn oddi amgylch, ac yn bum cufydd ei uchder; a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a'i hamgylchai oddi amgylch.