1 Brenhinoedd 6:29-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. A holl barwydydd y tŷ o amgylch a gerfiodd efe â cherfiedig luniau ceriwbiaid, a phalmwydd, a blodau agored; o fewn ac oddi allan.

30. Llawr y tŷ hefyd a wisgodd efe ag aur, oddi fewn ac oddi allan.

31. Ac i ddrws y gafell y gwnaeth efe ddorau o goed olewydd; capan y drws a'r gorsingau oedd bumed ran y pared.

32. Ac ar y ddwy ddôr o goed olewydd y cerfiodd efe gerfiadau ceriwbiaid, a phalmwydd, a blodau agored, ac a'u gwisgodd ag aur, ac a ledodd aur ar y ceriwbiaid, ac ar y palmwydd.

33. Ac felly y gwnaeth efe i ddrws y deml orsingau o goed olewydd, y rhai oedd bedwaredd ran y pared.

34. Ac yr oedd y ddwy ddôr o goed ffynidwydd: dwy ddalen blygedig oedd i'r naill ddôr, a dwy ddalen blygedig i'r ddôr arall.

35. Ac efe a gerfiodd geriwbiaid, a phalmwydd, a blodau agored, arnynt; ac a'u gwisgodd ag aur, yr hwn a gymhwyswyd ar y cerfiad.

36. Ac efe a adeiladodd y cyntedd nesaf i mewn â thair rhes o gerrig nadd, ac â rhes o drawstiau cedrwydd.

37. Yn y bedwaredd flwyddyn y sylfaenwyd tŷ yr Arglwydd, ym mis Sif:

1 Brenhinoedd 6