1 Brenhinoedd 4:15-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Ahimaas oedd yn Nafftali: yntau a gymerodd Basmath merch Solomon yn wraig.

16. Baana mab Husai oedd yn Aser ac yn Aloth.

17. Jehosaffat mab Parua oedd yn Issachar.

18. Simei mab Ela oedd o fewn Benjamin.

19. Geber mab Uri oedd yng ngwlad Gilead, gwlad Sehon brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan; a'r unig swyddog oedd yn y wlad ydoedd efe.

20. Jwda ac Israel oedd aml, fel y tywod sydd gerllaw y môr o amldra, yn bwyta ac yn yfed, ac yn gwneuthur yn llawen.

1 Brenhinoedd 4