1 Brenhinoedd 4:13-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Mab Geber oedd yn Ramoth‐Gilead: iddo ef yr oedd trefydd Jair mab Manasse, y rhai sydd yn Gilead: eiddo ef oedd ardal Argob, yr hon sydd yn Basan; sef trigain o ddinasoedd mawrion, â chaerau a barrau pres.

14. Ahinadab mab Ido oedd ym Mahanaim.

15. Ahimaas oedd yn Nafftali: yntau a gymerodd Basmath merch Solomon yn wraig.

16. Baana mab Husai oedd yn Aser ac yn Aloth.

17. Jehosaffat mab Parua oedd yn Issachar.

18. Simei mab Ela oedd o fewn Benjamin.

19. Geber mab Uri oedd yng ngwlad Gilead, gwlad Sehon brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan; a'r unig swyddog oedd yn y wlad ydoedd efe.

1 Brenhinoedd 4