1 Brenhinoedd 3:16-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Yna dwy wraig o buteiniaid a ddaethant at y brenin, ac a safasant ger ei fron ef.

17. A'r naill wraig a ddywedodd, O fy arglwydd, myfi a'r wraig hon oeddem yn trigo yn yr un tŷ; a mi a esgorais yn tŷ gyda hi.

18. Ac ar y trydydd dydd wedi esgor ohonof fi, yr esgorodd y wraig hon hefyd; ac yr oeddem ni ynghyd, heb arall yn tŷ gyda ni, ond nyni ein dwyoedd yn tŷ.

19. A mab y wraig hon a fu farw liw nos; oherwydd hi a orweddodd arno ef.

1 Brenhinoedd 3