1 Brenhinoedd 22:38-41 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

38. A golchwyd ei gerbyd ef yn llyn Samaria; a'r cŵn a lyfasant ei waed ef: yr arfau hefyd a olchwyd; yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe.

39. A'r rhan arall o hanesion Ahab, a'r hyn oll a wnaeth efe, a'r tŷ ifori a adeiladodd efe, a'r holl ddinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

40. Felly Ahab a hunodd gyda'i dadau; ac Ahaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

41. A Jehosaffat mab Asa a aeth yn frenin ar Jwda yn y bedwaredd flwyddyn i Ahab brenin Israel.

1 Brenhinoedd 22