1 Brenhinoedd 20:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Benhadad brenin Syria a gasglodd ei holl lu, a deuddeg brenin ar hugain gydag ef, a meirch, a cherbydau: ac efe a aeth i fyny, ac a warchaeodd ar Samaria, ac a ryfelodd i'w herbyn hi.

2. Ac efe a anfonodd genhadau at Ahab brenin Israel, i'r ddinas,

3. Ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed Benhadad, Dy arian a'th aur sydd eiddof fi; dy wragedd hefyd, a'th feibion glanaf, ydynt eiddof fi.

1 Brenhinoedd 20