1 Brenhinoedd 2:44-46 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

44. A dywedodd y brenin wrth Simei, Ti a wyddost yr holl ddrygioni a ŵyr dy galon, yr hwn a wnaethost ti yn erbyn Dafydd fy nhad: yr Arglwydd am hynny a ddychwelodd dy ddrygioni di ar dy ben dy hun;

45. A bendigedig fydd y brenin Solomon, a gorseddfainc Dafydd a sicrheir o flaen yr Arglwydd yn dragywydd.

46. Felly y gorchmynnodd y brenin i Benaia mab Jehoiada; ac efe a aeth allan, ac a ruthrodd arno ef, fel y bu efe farw. A'r frenhiniaeth a sicrhawyd yn llaw Solomon.

1 Brenhinoedd 2