40. A Simei a gyfododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a aeth i Gath at Achis, i geisio ei weision: ie, Simei a aeth, ac a gyrchodd ei weision o Gath.
41. A mynegwyd i Solomon, fyned o Simei o Jerwsalem i Gath, a'i ddychwelyd ef.
42. A'r brenin a anfonodd ac a alwodd am Simei, ac a ddywedodd wrtho. Oni pherais i ti dyngu i'r Arglwydd, ac oni thystiolaethais wrthyt, gan ddywedyd, Yn y dydd yr elych allan, ac yr elych nac yma nac acw, gan wybod gwybydd y lleddir di yn farw? a thi a ddywedaist wrthyf, Da yw y gair a glywais.
43. Paham gan hynny na chedwaist lw yr Arglwydd, a'r gorchymyn a orchmynnais i ti?
44. A dywedodd y brenin wrth Simei, Ti a wyddost yr holl ddrygioni a ŵyr dy galon, yr hwn a wnaethost ti yn erbyn Dafydd fy nhad: yr Arglwydd am hynny a ddychwelodd dy ddrygioni di ar dy ben dy hun;
45. A bendigedig fydd y brenin Solomon, a gorseddfainc Dafydd a sicrheir o flaen yr Arglwydd yn dragywydd.