1 Brenhinoedd 2:12-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. A Solomon a eisteddodd ar orseddfainc Dafydd ei dad; a'i frenhiniaeth ef a sicrhawyd yn ddirfawr.

13. Ac Adoneia mab Haggith a ddaeth at Bathseba mam Solomon. A hi a ddywedodd, Ai heddychlon dy ddyfodiad? Yntau a ddywedodd, Heddychlon.

14. Ac efe a ddywedodd, Y mae i mi air รข thi. Hithau a ddywedodd, Dywed.

15. Yntau a ddywedodd, Ti a wyddost mai eiddof fi oedd y frenhiniaeth, ac i holl Israel osod eu hwynebau ar fy ngwneuthur i yn frenin: eithr trodd y frenhiniaeth, ac a aeth i'm brawd: canys trwy yr Arglwydd yr aeth hi yn eiddo ef.

16. Ond yn awr dymunaf gennyt un dymuniad; na omedd fi. Hithau a ddywedodd wrtho, Dywed.

17. Yntau a ddywedodd, Dywed, atolwg, wrth y brenin Solomon, (canys ni omedd efe dydi,) am roddi ohono ef Abisag y Sunamees yn wraig i mi.

1 Brenhinoedd 2