13. A phan glybu Eleias, efe a oblygodd ei wyneb yn ei fantell, ac a aeth allan, ac a safodd wrth ddrws yr ogof. Ac wele lef yn dyfod ato, yr hon a ddywedodd, Beth a wnei di yma, Eleias?
14. Dywedodd yntau, Dygais fawr sêl dros Arglwydd Dduw y lluoedd; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau, a lladd dy broffwydi â'r cleddyf: a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent fy einioes innau i'w dwyn hi ymaith.
15. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, dychwel i'th ffordd i anialwch Damascus: a phan ddelych, eneinia Hasael yn frenin ar Syria;
16. A Jehu mab Nimsi a eneini di yn frenin ar Israel; ac Eliseus mab Saffat, o Abel‐mehola, a eneini di yn broffwyd yn dy le dy hun.
17. A'r hwn a ddihango rhag cleddyf Hasael, Jehu a'i lladd ef: ac Eliseus a ladd yr hwn a ddihango rhag cleddyf Jehu.
18. A mi a adewais yn Israel saith o filoedd, y gliniau oll ni phlygasant i Baal, a phob genau a'r nis cusanodd ef.
19. Felly efe a aeth oddi yno, ac a gafodd Eliseus mab Saffat yn aredig, â deuddeg cwpl o ychen o'i flaen, ac efe oedd gyda'r deuddegfed. Ac Eleias a aeth heibio iddo ef, ac a fwriodd ei fantell arno ef.
20. Ac efe a adawodd yr ychen, ac a redodd ar ôl Eleias, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi gusanu fy nhad a'm mam, ac yna mi a ddeuaf ar dy ôl. Ac yntau a ddywedodd wrtho, Dos, dychwel; canys beth a wneuthum i ti?
21. Ac efe a ddychwelodd oddi ar ei ôl ef, ac a gymerth gwpl o ychen, ac a'u lladdodd, ac ag offer yr ychen y berwodd efe eu cig hwynt, ac a'i rhoddodd i'r bobl, a hwy a fwytasant. Yna efe a gyfododd ac a aeth ar ôl Eleias, ac a'i gwasanaethodd ef.