28. A hwy a waeddasant â llef uchel, ac a'u torasant eu hunain yn ôl eu harfer â chyllyll ac ag ellynod, nes i'r gwaed ffrydio arnynt.
29. Ac wedi iddi fyned dros hanner dydd, a phroffwydo ohonynt nes offrymu yr hwyr‐offrwm; eto nid oedd llef, na neb yn ateb, nac yn ystyried.
30. A dywedodd Eleias wrth yr holl bobl, Nesewch ataf fi. A'r holl bobl a nesasant ato ef. Ac efe a gyweiriodd allor yr Arglwydd, yr hon a ddrylliasid.
31. Ac Eleias a gymerth ddeuddeg o gerrig, yn ôl rhifedi llwythau meibion Jacob, yr hwn y daethai gair yr Arglwydd ato, gan ddywedyd, Israel fydd dy enw di.
32. Ac efe a adeiladodd â'r meini allor yn enw yr Arglwydd; ac a wnaeth ffos o gylch lle dau fesur o had, o amgylch yr allor.
33. Ac efe a drefnodd y coed, ac a ddarniodd y bustach, ac a'i gosododd ar y coed;
34. Ac a ddywedodd, Llenwch bedwar celyrnaid o ddwfr, a thywelltwch ar y poethoffrwm, ac ar y coed. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch eilwaith; a hwy a wnaethant eilwaith. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch y drydedd waith; a hwy a wnaethant y drydedd waith.
35. A'r dyfroedd a aethant o amgylch yr allor, ac a lanwodd y ffos o ddwfr.
36. A phan offrymid yr hwyr‐offrwm, Eleias y proffwyd a nesaodd ac a ddywedodd, O Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, ac Israel, gwybydder heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel, a minnau yn was i ti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum i yr holl bethau hyn.