1 Brenhinoedd 17:22-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. A'r Arglwydd a wrandawodd ar lef Eleias; ac enaid y bachgen a ddychwelodd i mewn iddo, ac efe a ddadebrodd.

23. Ac Eleias a gymerodd y bachgen, ac a'i dug ef i waered o'r ystafell i'r tŷ, ac a'i rhoddes ef i'w fam: ac Eleias a ddywedodd, Gwêl, byw yw dy fab.

24. A'r wraig a ddywedodd wrth Eleias, Yn awr wrth hyn y gwn mai gŵr Duw ydwyt ti, ac mai gwirionedd yw gair yr Arglwydd yn dy enau di.

1 Brenhinoedd 17