1 Brenhinoedd 16:19-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Am ei bechodau yn y rhai y pechodd efe, gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd, gan rodio yn ffordd Jeroboam, ac yn ei bechod a wnaeth efe i beri i Israel bechu.

20. A'r rhan arall o hanes Simri, a'i gydfradwriaeth a gydfwriadodd efe; onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

21. Yna yr ymrannodd pobl Israel yn ddwy ran: rhan o'r bobl oedd ar ôl Tibni mab Ginath, i'w osod ef yn frenin, a rhan ar ôl Omri.

22. A'r bobl oedd ar ôl Omri a orchfygodd y bobl oedd ar ôl Tibni mab Ginath: felly Tibni a fu farw, ac Omri a deyrnasodd.

23. Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Omri ar Israel ddeuddeng mlynedd: yn Tirsa y teyrnasodd efe chwe blynedd.

24. Ac efe a brynodd fynydd Samaria gan Semer, er dwy dalent o arian; ac a adeiladodd yn y mynydd, ac a alwodd enw y ddinas a adeiladasai efe, ar ôl enw Semer, arglwydd y mynydd, Samaria.

25. Ond Omri a wnaeth ddrygioni yng ngŵydd yr Arglwydd, ac a wnaeth yn waeth na'r holl rai a fuasai o'i flaen ef.

26. Canys efe a rodiodd yn holl ffordd Jeroboam mab Nebat, ac yn ei bechod ef, trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu, gan ddigio Arglwydd Dduw Israel â'u gwagedd hwynt.

1 Brenhinoedd 16