25. Yna Jeroboam a adeiladodd Sichem ym mynydd Effraim, ac a drigodd ynddi hi; ac a aeth oddi yno, ac adeiladodd Penuel.
26. A Jeroboam a feddyliodd yn ei galon, Yn awr y dychwel y frenhiniaeth at dŷ Dafydd.
27. Os â y bobl hyn i fyny i wneuthur aberthau yn nhŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem, yna y try calon y bobl hyn at eu harglwydd Rehoboam brenin Jwda, a hwy a'm lladdant i, ac a ddychwelant at Rehoboam brenin Jwda.
28. Yna y brenin a ymgynghorodd, ac a wnaeth ddau lo aur, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Gormod yw i chwi fyned i fyny i Jerwsalem: wele dy dduwiau di, O Israel, y rhai a'th ddug di i fyny o wlad yr Aifft.
29. Ac efe a osododd un yn Bethel, ac a osododd y llall yn Dan.
30. A'r peth hyn a aeth yn bechod: oblegid y bobl a aethant gerbron y naill hyd Dan.
31. Ac efe a wnaeth dŷ uchelfeydd, ac a wnaeth offeiriaid o'r rhai gwaelaf o'r bobl, y rhai nid oedd o feibion Lefi.