1 Brenhinoedd 12:10-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. A'r gwŷr ieuainc, y rhai a gynyddasent gydag ef, a lefarasant wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi di wrth y bobl yma, y rhai a lefarasant wrthyt, gan ddywedyd, Dy dad di a drymhaodd ein hiau ni, ond ysgafnha di hi arnom ni; fel hyn y lleferi di wrthynt; Fy mys bach fydd breisgach na llwynau fy nhad.

11. Ac yn awr fy nhad a'ch llwythodd â iau drom, a minnau a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a'ch cosbodd chwi â ffrewyllau, a mi a'ch cosbaf chwi ag ysgorpionau.

12. A daeth Jeroboam a'r holl bobl at Rehoboam y trydydd dydd, fel y llefarasai y brenin, gan ddywedyd, Dychwelwch ataf fi y trydydd dydd.

13. A'r brenin a atebodd y bobl yn arw, ac a wrthododd gyngor yr henuriaid a gyngorasent hwy iddo;

14. Ac a lefarodd wrthynt hwy yn ôl cyngor y gwŷr ieuainc, gan ddywedyd, Fy nhad a wnaeth eich iau chwi yn drom, a minnau a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a'ch ceryddodd chwi â ffrewyllau, a minnau a'ch ceryddaf chwi ag ysgorpionau.

15. Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl. Oherwydd yr achos oedd oddi wrth yr Arglwydd, fel y cwblheid ei air ef, yr hwn a lefarasai yr Arglwydd trwy law Ahia y Siloniad wrth Jeroboam mab Nebat.

16. A phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy, y bobl a atebasant y brenin, gan ddywedyd, Pa ran sydd i ni yn Dafydd? nid oes i ni etifeddiaeth ym mab Jesse: O Israel, dos i'th bebyll; edrych yn awr ar dy dŷ dy hun, Dafydd. Felly Israel a aethant i'w pebyll.

1 Brenhinoedd 12