1 Brenhinoedd 11:1-2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ond y brenin Solomon a garodd lawer o wragedd dieithr, heblaw merch Pharo, Moabesau, Ammonesau, Edomesau, Sidonesau, a Hethesau;

2. O'r cenhedloedd am y rhai y dywedasai yr Arglwydd wrth feibion Israel, Nac ewch i mewn atynt hwy, ac na ddeuant hwythau i mewn atoch chwi: diau y troant eich calonnau chwi ar ôl eu duwiau hwynt. Wrthynt hwy y glynodd Solomon mewn cariad.

1 Brenhinoedd 11