3. A hwy a geisiasant lances deg trwy holl fro Israel; ac a gawsant Abisag y Sunamees, ac a'i dygasant hi at y brenin.
4. A'r llances oedd deg iawn, ac oedd yn ymgeleddu'r brenin, ac yn ei wasanaethu ef: ond ni bu i'r brenin a wnaeth â hi.
5. Ac Adoneia mab Haggith a ymddyrchafodd, gan ddywedyd, Myfi a fyddaf frenin: ac efe a ddarparodd iddo gerbydau a gwŷr meirch, a dengwr a deugain i redeg o'i flaen.
6. A'i dad nid anfodlonasai ef yn ei ddyddiau, gan ddywedyd, Paham y gwnaethost fel hyn? yntau hefyd oedd deg iawn o bryd; ac efe a anesid wedi Absalom.
7. Ac o'i gyfrinach y gwnaeth efe Joab mab Serfia, ac Abiathar yr offeiriad: a hwy a gynorthwyasant ar ôl Adoneia.
8. Ond Sadoc yr offeiriad, a Benaia mab Jehoiada, a Nathan y proffwyd, a Simei, a Rei, a'r gwŷr cedyrn a fuasai gyda Dafydd, nid oeddynt gydag Adoneia.
9. Ac Adoneia a laddodd ddefaid, a gwartheg, a phasgedigion, wrth faen Soheleth, yr hwn sydd wrth En‐rogel, ac a wahoddodd ei holl frodyr meibion y brenin, a holl wŷr Jwda gweision y brenin.
10. Ond Nathan y proffwyd, a Benaia, a'r gwŷr cedyrn, a Solomon ei frawd, ni wahoddodd efe.
11. Am hynny y dywedodd Nathan wrth Bathseba mam Solomon, gan ddywedyd, Oni chlywaist ti fod Adoneia mab Haggith yn teyrnasu, a'n harglwydd Dafydd heb wybod hynny?