Y Salmau 98:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd,oherwydd gwnaeth ryfeddodau.Cafodd fuddugoliaeth â'i ddeheulawac â'i fraich sanctaidd.

2. Gwnaeth yr ARGLWYDD ei fuddugoliaeth yn hysbys,datguddiodd ei gyfiawnder o flaen y cenhedloedd.

3. Cofiodd ei gariad a'i ffyddlondebtuag at dŷ Israel;gwelodd holl gyrrau'r ddaearfuddugoliaeth ein Duw.

4. Bloeddiwch mewn gorfoledd i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear,canwch mewn llawenydd a rhowch fawl.

Y Salmau 98