Y Salmau 96:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Y mae anrhydedd a mawredd o'i flaen,nerth a gogoniant yn ei gysegr.

7. Rhowch i'r ARGLWYDD, dylwythau'r cenhedloedd,rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd a nerth;

8. rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd ei enw,dygwch offrwm a dewch i'w gynteddoedd.

9. Ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd;crynwch o'i flaen, yr holl ddaear.

10. Dywedwch ymhlith y cenhedloedd, “Y mae'r ARGLWYDD yn frenin”;yn wir, y mae'r byd yn sicr ac nis symudir;bydd ef yn barnu'r bobloedd yn uniawn.

11. Bydded y nefoedd yn llawen a gorfoledded y ddaear;rhued y môr a'r cyfan sydd ynddo,

Y Salmau 96