Y Salmau 91:2-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Fy noddfa a'm caer,fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo.”

3. Oherwydd bydd ef yn dy waredu o fagl heliwr,ac oddi wrth bla difaol;

4. bydd yn cysgodi drosot â'i esgyll,a chei nodded dan ei adenydd;bydd ei wirionedd yn darian a bwcled.

5. Ni fyddi'n ofni rhag dychryn y nos,na rhag saeth yn hedfan yn y dydd,

6. rhag pla sy'n tramwyo yn y tywyllwch,na rhag dinistr sy'n difetha ganol dydd.

7. Er i fil syrthio wrth dy ochr,a deng mil ar dy ddeheulaw,eto ni chyffyrddir â thi.

8. Ni fyddi ond yn edrych â'th lygaidac yn gweld tâl y drygionus.

Y Salmau 91