Y Salmau 89:34-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

34. Ni thorraf fy nghyfamod,na newid gair a aeth o'm genau.

35. Unwaith am byth y tyngais i'm sancteiddrwydd,ac ni fyddaf yn twyllo Dafydd.

36. Fe barha ei linach am byth,a'i orsedd cyhyd â'r haul o'm blaen.

37. Bydd wedi ei sefydlu am byth fel y lleuad,yn dyst ffyddlon yn y nef.”Sela

38. Ond eto yr wyt wedi gwrthod, a throi heibio,a digio wrth dy eneiniog.

39. Yr wyt wedi dileu'r cyfamod â'th was,wedi halogi ei goron a'i thaflu i'r llawr.

Y Salmau 89