6. Gosodaist fi yn y pwll isod,yn y mannau tywyll a'r dyfnderau.
7. Daeth dy ddigofaint yn drwm arnaf,a llethaist fi â'th holl donnau.Sela
8. Gwnaethost i'm cydnabod bellhau oddi wrthyf,a'm gwneud yn ffiaidd iddynt.Yr wyf wedi fy nghaethiwo ac ni allaf ddianc;
9. y mae fy llygaid yn pylu gan gystudd.Galwaf arnat ti bob dydd, O ARGLWYDD,ac y mae fy nwylo'n ymestyn atat.
10. A wnei di ryfeddodau i'r meirw?A yw'r cysgodion yn codi i'th foliannu?Sela
11. A fynegir dy gariad yn y bedd,a'th wirionedd yn nhir Abadon?
12. A yw dy ryfeddodau'n wybyddus yn y tywyllwch,a'th fuddugoliaethau yn nhir angof?
13. Ond yr wyf fi yn llefain arnat ti am gymorth, O ARGLWYDD,ac yn y bore daw fy ngweddi atat.