Y Salmau 85:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Bydd cariad a gwirionedd yn cyfarfod,a chyfiawnder a heddwch yn cusanu ei gilydd.

11. Bydd ffyddlondeb yn tarddu o'r ddaear,a chyfiawnder yn edrych i lawr o'r nefoedd.

12. Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi daioni,a'n tir yn rhoi ei gnwd.

13. Bydd cyfiawnder yn mynd o'i flaen,a heddwch yn dilyn yn ôl ei droed.

Y Salmau 85