Y Salmau 84:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Gwyn eu byd y rhai yr wyt ti'n noddfa iddynt,a ffordd y pererinion yn eu calon.

6. Wrth iddynt fynd trwy ddyffryn Bacafe'i cânt yn ffynnon;bydd y glaw cynnar yn ei orchuddio â bendith.

7. Ânt o nerth i nerth,a bydd Duw y duwiau yn ymddangos yn Seion.

8. O ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd, clyw fy ngweddi;gwrando arnaf, O Dduw Jacob.Sela

9. Edrych ar ein tarian, O Dduw;rho ffafr i'th eneiniog.

Y Salmau 84