Y Salmau 81:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Ysgafnheais y baich ar dy ysgwydd,a rhyddhau dy ddwylo oddi wrth y basgedi.

7. Pan waeddaist mewn cyfyngder, gwaredais di,ac atebais di yn ddirgel yn y taranau;profais di wrth ddyfroedd Meriba.Sela

8. Gwrando, fy mhobl, a dygaf dystiolaeth yn dy erbyn.O na fyddit yn gwrando arnaf fi, Israel!

9. Na fydded gennyt dduw estron,a phaid ag ymostwng i dduw dieithr.

Y Salmau 81