Y Salmau 8:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Eto gwnaethost ef ychydig islaw duwa'i goroni â gogoniant ac anrhydedd.

6. Rhoist iddo awdurdod ar waith dy ddwylo,a gosod popeth dan ei draed:

7. defaid ac ychen i gyd,yr anifeiliaid gwylltion hefyd,

8. adar y nefoedd, a physgod y môr,a phopeth sy'n tramwyo llwybrau'r dyfroedd.

9. O ARGLWYDD, ein Iôr, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!

Y Salmau 8