Y Salmau 78:63-67 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

63. Ysodd tân eu gwŷr ifainc,ac nid oedd gân briodas i'w morynion;

64. syrthiodd eu hoffeiriaid trwy'r cleddyf,ac ni allai eu gweddwon alaru.

65. Yna, cododd yr Arglwydd, fel o gwsg,fel rhyfelwr yn cael ei symbylu gan win.

66. Trawodd ei elynion yn eu holau,a dwyn arnynt warth tragwyddol.

67. Gwrthododd babell Joseff,ac ni ddewisodd lwyth Effraim;

Y Salmau 78