Y Salmau 78:46-53 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

46. Rhoes eu cnwd i'r lindys,a ffrwyth eu llafur i'r locust.

47. Dinistriodd eu gwinwydd â chenllysg,a'u sycamorwydd â glawogydd.

48. Rhoes eu gwartheg i'r haint,a'u diadell i'r plâu.

49. Anfonodd ei lid mawr arnynt,a hefyd ddicter, cynddaredd a gofid—cwmni o negeswyr gwae—

50. a rhoes ryddid i'w lidiowgrwydd.Nid arbedodd hwy rhag marwolaethond rhoi eu bywyd i'r haint.

51. Trawodd holl rai cyntafanedig yr Aifft,blaenffrwyth eu nerth ym mhebyll Ham.

52. Yna dygodd allan ei bobl fel defaid,a'u harwain fel praidd trwy'r anialwch;

53. arweiniodd hwy'n ddiogel heb fod arnynt ofn,ond gorchuddiodd y môr eu gelynion.

Y Salmau 78