Y Salmau 78:38-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

38. Eto, bu ef yn drugarog, maddeuodd eu trosedd,ac ni ddistrywiodd hwy;dro ar ôl tro ataliodd ei ddig,a chadw ei lid rhag codi.

39. Cofiodd mai cnawd oeddent,gwynt sy'n mynd heibio heb ddychwelyd.

40. Mor aml y bu iddynt wrthryfela yn ei erbyn yn yr anialwch,a pheri gofid iddo yn y diffeithwch!

41. Dro ar ôl tro rhoesant brawf ar Dduw,a blino Sanct Israel.

42. Nid oeddent yn cofio ei rymy dydd y gwaredodd hwy rhag y gelyn,

43. pan roes ei arwyddion yn yr Aiffta'i ryfeddodau ym meysydd Soan.

Y Salmau 78