Y Salmau 77:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Cedwaist fy llygaid rhag cau;fe'm syfrdanwyd, ac ni allaf siarad.

5. Af yn ôl i'r dyddiau gynta chofio am y blynyddoedd a fu;

6. meddyliaf ynof fy hun yn y nos,myfyriaf, a'm holi fy hunan,

7. “A wrthyd yr Arglwydd am byth,a pheidio â gwneud ffafr mwyach?

8. A yw ei ffyddlondeb wedi darfod yn llwyr,a'i addewid wedi ei hatal am genedlaethau?

9. A yw Duw wedi anghofio trugarhau?A yw yn ei lid wedi cloi ei dosturi?”Sela

Y Salmau 77