Y Salmau 77:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. O Dduw, sanctaidd yw dy ffordd;pa dduw sydd fawr fel ein Duw ni?

14. Ti yw'r Duw sy'n gwneud pethau rhyfeddol;dangosaist dy rym ymhlith y bobloedd.

15. Â'th fraich gwaredaist dy bobl,disgynyddion Jacob a Joseff.Sela

16. “Gwelodd y dyfroedd di, O Dduw,gwelodd y dyfroedd di ac arswydo;yn wir, yr oedd y dyfnder yn crynu.

17. Tywalltodd y cymylau ddŵr,ac yr oedd y ffurfafen yn taranu;fflachiodd dy saethau ar bob llaw.

Y Salmau 77