Y Salmau 76:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. pan gododd Duw i farnu,ac i waredu holl drueiniaid y ddaear.Sela

10. Bydd Edom, er ei ddig, yn dy foliannu,a gweddill Hamath yn cadw gŵyl i ti.

11. Gwnewch eich addunedau i'r ARGLWYDD eich Duw, a'u talu;bydded i bawb o'i amgylch ddod â rhoddion i'r un ofnadwy.

12. Y mae'n dryllio ysbryd tywysogion,ac yn arswyd i frenhinoedd y ddaear.

Y Salmau 76