Y Salmau 74:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Cofia, O ARGLWYDD, fel y mae'r gelyn yn gwawdio,a phobl ynfyd yn difrïo dy enw.

19. Paid â rhoi dy golomen i'r bwystfilod,nac anghofio bywyd dy drueiniaid am byth.

20. Rho sylw i'th gyfamod,oherwydd y mae cuddfannau'r ddaear yn llawnac yn gartref i drais.

21. Paid â gadael i'r gorthrymedig droi ymaith yn ddryslyd;bydded i'r tlawd a'r anghenus glodfori dy enw.

22. Cyfod, O Dduw, i ddadlau dy achos;cofia fel y mae'r ynfyd yn dy wawdio'n wastad.

Y Salmau 74