Y Salmau 72:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Bydded i'r holl frenhinoedd ymostwng o'i flaen,ac i'r holl genhedloedd ei wasanaethu.

12. Oherwydd y mae'n gwaredu'r anghenus pan lefa,a'r tlawd pan yw heb gynorthwywr.

13. Y mae'n tosturio wrth y gwan a'r anghenus,ac yn gwaredu bywyd y tlodion.

14. Y mae'n achub eu bywyd rhag trais a gorthrwm,ac y mae eu gwaed yn werthfawr yn ei olwg.

Y Salmau 72