Y Salmau 69:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Pan wylaf wrth ymprydio,fe'i hystyrir yn waradwydd i mi;

11. pan wisgaf sachliain amdanaf,fe'm gwneir yn ddihareb iddynt.

12. Y mae'r rhai sy'n eistedd wrth y porth yn siarad amdanaf,ac yr wyf yn destun i watwar y meddwon.

13. Ond daw fy ngweddi i atat, O ARGLWYDD.Ar yr amser priodol, O Dduw,ateb fi yn dy gariad mawrgyda'th waredigaeth sicr.

14. Gwared fi o'r llaid rhag imi suddo,achuber fi o'r mwd ac o'r dyfroedd dyfnion.

15. Na fydded i'r llifogydd fy sgubo ymaith,na'r dyfnder fy llyncu,na'r pwll gau ei safn amdanaf.

Y Salmau 69