Y Salmau 68:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. O Dduw, pan aethost ti allan o flaen dy bobl,a gorymdeithio ar draws yr anialwch,Sela

8. crynodd y ddaear a glawiodd y nefoeddo flaen Duw, Duw Sinai,o flaen Duw, Duw Israel.

9. Tywelltaist ddigonedd o law, O Dduw,ac adfer dy etifeddiaeth pan oedd ar ddiffygio;

10. cafodd dy braidd le i fyw ynddi,ac yn dy ddaioni darperaist i'r anghenus, O Dduw.

11. Y mae'r Arglwydd yn datgan y gair,ac y mae llu mawr yn cyhoeddi'r newydd da

12. fod brenhinoedd y byddinoedd yn ffoi ar frys;y mae'r merched gartref yn rhannu ysbail—

Y Salmau 68