Y Salmau 66:8-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Bendithiwch ein Duw, O bobloedd,a seiniwch ei fawl yn glywadwy.

9. Ef a roes le i ni ymysg y byw,ac ni adawodd i'n troed lithro.

10. Oherwydd buost yn ein profi, O Dduw,ac yn ein coethi fel arian.

11. Dygaist ni i'r rhwyd,rhoist rwymau amdanom,

12. gadewaist i ddynion farchogaeth dros ein pennau,aethom trwy dân a dyfroedd;ond dygaist ni allan i ryddid.

13. Dof i'th deml â phoethoffrymau,talaf i ti fy addunedau,

14. a wneuthum â'm gwefusauac a lefarodd fy ngenau pan oedd yn gyfyng arnaf.

Y Salmau 66