1. Yn wir, yn Nuw yr ymdawela fy enaid;oddi wrtho ef y daw fy ngwaredigaeth.
2. Ef yn wir yw fy nghraig a'm gwaredigaeth,fy amddiffynfa, fel na'm symudir.
3. Am ba hyd yr ymosodwch ar ddyn,bob un ohonoch, a'i falurio,fel mur wedi gogwyddoa chlawdd ar syrthio?
4. Yn wir, cynlluniant i'w dynnu i lawr o'i safle,ac y maent yn ymhyfrydu mewn twyll;y maent yn bendithio â'u genau,ond ynddynt eu hunain yn melltithio.Sela
5. Yn wir, yn Nuw yr ymdawela fy enaid;oddi wrtho ef y daw fy ngobaith.