Y Salmau 61:3-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. oherwydd buost ti'n gysgod imi,yn dŵr cadarn rhag y gelyn.

4. Gad imi aros yn dy babell am byth,a llochesu dan gysgod dy adenydd.Sela

5. Oherwydd clywaist ti, O Dduw, fy addunedau,a gwnaethost ddymuniad y rhai sy'n ofni dy enw.

6. Estyn ddyddiau lawer at oes y brenin,a bydded ei flynyddoedd fel cenedlaethau;

7. bydded wedi ei orseddu gerbron Duw am byth;bydded cariad a gwirionedd yn gwylio drosto.

8. Felly y canmolaf dy enw byth,a thalu fy addunedau ddydd ar ôl dydd.

Y Salmau 61