Y Salmau 60:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Rhoist faner i'r rhai sy'n dy ofni,iddynt ffoi ati rhag y bwa.Sela

5. Er mwyn gwaredu dy anwyliaid,achub â'th ddeheulaw, ac ateb ni.

6. Llefarodd Duw yn ei gysegr,“Yr wyf yn gorfoleddu wrth rannu Sichem

7. a mesur dyffryn Succoth yn rhannau;eiddof fi yw Gilead a Manasse,Effraim yw fy helm,a Jwda yw fy nheyrnwialen;

8. Moab yw fy nysgl ymolchi,ac at Edom y taflaf fy esgid;ac yn erbyn Philistia y gorfoleddaf.”

Y Salmau 60