Y Salmau 50:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. oherwydd eiddof fi holl fwystfilod y goedwig,a'r gwartheg ar fil o fryniau.

11. Yr wyf yn adnabod holl adar yr awyr,ac eiddof fi holl greaduriaid y maes.

12. Pe bawn yn newynu, ni ddywedwn wrthyt ti,oherwydd eiddof fi'r byd a'r hyn sydd ynddo.

13. A fwytâf fi gig eich teirw,neu yfed gwaed eich bychod geifr?

14. Rhowch i Dduw offrymau diolch,a thalwch eich addunedau i'r Goruchaf.

15. Os gelwi arnaf yn nydd cyfyngderfe'th waredaf, a byddi'n fy anrhydeddu.”

Y Salmau 50