Y Salmau 42:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Y mae fy enaid yn ddarostyngedig ynof;am hynny, meddyliaf amdanat tio dir yr Iorddonen a Hermonac o Fynydd Misar.

7. Geilw dyfnder ar ddyfnderyn sŵn dy raeadrau;y mae dy fôr a'th donnauwedi llifo trosof.

8. Liw dydd y mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn ei ffyddlondeb,a liw nos y mae ei gân gyda mi,gweddi ar Dduw fy mywyd.

9. Dywedaf wrth Dduw, fy nghraig,“Pam yr anghofiaist fi?Pam y rhodiaf mewn galar,wedi fy ngorthrymu gan y gelyn?”

10. Fel pe'n dryllio fy esgyrn,y mae fy ngelynion yn fy ngwawdio,ac yn dweud wrthyf trwy'r dydd,“Ple mae dy Dduw?”

Y Salmau 42