5. Wele, yr wyt wedi gwneud fy nyddiau fel dyrnfedd,ac y mae fy oes fel dim yn dy olwg;yn wir, chwa o wynt yw pob un byw,Sela
6. “ac y mae'n mynd a dod fel cysgod;yn wir, ofer yw'r holl gyfoeth a bentyrra,ac ni ŵyr pwy fydd yn ei gasglu.
7. “Ac yn awr, Arglwydd, am beth y disgwyliaf?Y mae fy ngobaith ynot ti.
8. Gwared fi o'm holl droseddau,paid â'm gwneud yn wawd i'r ynfyd.
9. Bûm yn fud, ac nid agoraf fy ngheg,oherwydd ti sydd wedi gwneud hyn.
10. Tro ymaith dy bla oddi wrthyf;yr wyf yn darfod gan drawiad dy law.